Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

O ddydd Llun, 21 Gorffennaf tan ddydd Mercher, 3 Medi, bydd llinell prynu tocynnau dros y ffôn ein Swyddfa Docynnau ar agor 1pm-4pm rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener ar gyfer y cwsmeriaid hynny sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu y byddai'n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

ARTIST MEWN GWASANAETH

11 Awst 2025
ARTIST MEWN GWASANAETH

ARTIST MEWN GWASANAETH

Cyflwyniad

Mae Gwasanaeth Celfyddydau a Diwylliannol Rhondda Cynon Taf yn falch o gyhoeddi bod ei raglen arloesol Artist mewn Gwasanaeth yn dychwelyd.

Wedi'i gynllunio mewn ymgynghoriad â The Experience Business yn rhan o Raglen Cynllunio Gwerth i'r Cyhoedd, mae'r rôl yma'n rhoi cyfle i artist lleol ddatblygu ei ymarfer creadigol trwy ymgysylltu â chymunedau yn Rhondda Cynon Taf.

Yn bwysicach fyth, dydyn ni ddim yn disgwyl i'r gweithgarwch arwain at gynhyrchiad o waith artistig gwreiddiol. Hefyd, does gyda ni ddim diddordeb mewn cyfres o weithdai rhyngweithiol. Yn lle hynny, rydyn ni'n chwilio am rywun sy'n chwilfrydig ynghylch y manteision i'r ddwy ochr sy'n deillio o'r cyfnewid rhwng yr artist a'r trigolion.

Mae'r ail rownd yma (2025-26) yn adeiladu ar lwyddiant Harriet Fleuriot a Rhys Slade-Jones, Artistiaid mewn Gwasanaeth cyntaf a gafodd eu penodi ym mis Hydref 2024 a gwasanaethodd tan fis Mai 2025.

O ganlyniad i'w gwaith, mae gyda ni well dealltwriaeth o beth yw'r rôl a'i datblygiad posibl yn y dyfodol. Wedi dweud hynny, mae hanfodion y rhaglen yn parhau heb eu newid:

- Contract penagored heb unrhyw ofyniad am 'gynnyrch'.

- Ymrwymiad gwirioneddol i ymgysylltu â phobl a lleoedd Rhondda Cynon Taf.

- Cyd-fynd â gweledigaeth a gwerthoedd Gwasanaeth Celfyddydau Rhondda Cynon Taf (gweler isod)

- Cred yn eich proses artistig eich hun

Fel gyda'r rownd flaenorol, dim ond i artistiaid sydd wedi'u lleoli yn Rhondda Cynon Taf neu'r rhai sydd â pherthynas brofedig â'r ardal y mae'r cyfle yma ar gael. Rydyn ni'n effro i'r ffaith bod y polisi yma yn eithrio llawer o artistiaid ac rydyn ni'n deall pa mor rhwystredig y mae modd i hynny fod. Serch hynny, a ninnau'n wasanaeth celfyddydau Awdurdod Lleol, mae gyda ni gyfrifoldeb uniongyrchol i'n trigolion ein hunain a rhaid i hynny gael blaenoriaeth bob amser.

Mae ein diffiniad o 'Artist' yn eang, ac rydyn ni'n agored i glywed gan y rhai sy'n gweithio mewn unrhyw ddisgyblaeth neu faes, ac ar unrhyw lefel o brofiad.

Mae canfyddiadau o'r cynllun peilot (2024-25) yn awgrymu rhai meysydd allweddol y gallai rowndiau'r dyfodol eu harchwilio ymhellach. Mae'r rhain yn cynnwys:

- Cefnogaeth i'r rhwydwaith teithio lleol ledled Rhondda Cynon Taf. Ymgynghori â lleoliadau ar eu hamcanion artistig, gwella mynediad a chryfhau cyfathrebu ledled y sector.

- Cynghori ar, ac eirioli dros, ddatblygiad gwaith gwreiddiol yn y Gymraeg.

- Dyfnhau'r cysylltiad rhwng yr awdurdod lleol a'r cymunedau rydyn ni'n eu gwasanaethu.

Wedi dweud hynny, nid yw'r broses ei hun yn rhagnodol ac mae'n parhau i fod yn ymatebol i anghenion a diddordebau'r artist penodedig.

Os oes gyda chi unrhyw gwestiynau pellach am y rôl yma, e-bostiwch Reolwr Ymgysylltu â'r Celfyddydau a'r Gymuned, Jesse Briton ar jesse.briton@rctcbc.gov.uk

Cyflwyno Cais

I wneud cais, e-bostiwch gopi o'ch CV a llythyr eglurhaol byr (un ochr o bapur A4) yn egluro eich diddordeb yn y rôl i DiwydiannauCreadigol@rctcbc.gov.uk erbyn 5pm 29 Awst 2025 ynghyd â rhai dolenni neu enghreifftiau o waith blaenorol.

Mae croeso i chi wneud cais yn y Gymraeg neu Saesneg. Hoffech chi gyflwyno cais dros fideo neu ar ffurf sain? Cysylltwch â ni ymlaen llaw.

Bydd ymgeiswyr sydd wedi cyrraedd y rhestr fer yn cael eu gwahodd i gyfweliad wythnos yn dechrau 15 Medi

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael ei gyhoeddi yn Noson Sbrigiau (Scratch Night) Rhondda Cynon Taf ddydd Mercher 1 Hydref 2025

Achlysur Briffio

Bydd achlysur ar-lein yn cael ei gynnal 22/08/2025 am 1200 ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb mewn dysgu rhagor am y rhaglen. Bydd hyn yn cynnwys cyflwyniad ar y rôl a sesiwn Holi ac Ateb gyda deiliaid blaenorol.

Os hoffech chi fod yn bresennol yn yr achlysur, e-bostiwch DiwydiannauCreadigol@rctcbc.gov.uk am y ddolen i ymuno.

Manylion y Contract

Ffi: £15,000

Cyllideb deunyddiau: £3,000

Dyddiadau: 1 Hydref 2025 - 30 Mehefin 2026 (9 mis)

Math o gontract: Llawrydd

Lleoliad: Bydd y swydd wedi'i lleoli mewn lleoliadau Theatrau Rhondda Cynon Taf neu adeilad awdurdod lleol neu leoliad cymunedol i'w gytuno'n gydfuddiannol gyda'r artist.

Cludiant: Mae disgwyl i'r artist fod â gwreiddyn yn Rhondda Cynon Taf a bod â mynediad at ei drafnidiaeth ei hun neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus.

Ein Gweledigaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf

"Rhondda Cynon Taf llewyrchus lle mae gyda'r celfyddydau'r grym i wneud i ni deimlo'n hapus, yn hyderus a balch o'n cartref.

Ein gwerthoedd

Creadigedd: meithrin talent creadigol; galluogi sbarduno creadigol; ysbrydoli mynegiant creadigol; darganfod talent cudd; darparu profiadau newydd; heriau; cymryd risgiau

Ymdeimlad o berthyn dathlu lle; diwygio persbectif; gwrando a rhannu lleisiau; cydnabod lle Rhondda Cynon Taf heddiw; datblygu balchder mewn lle a datblygu uchelgeisiau ar gyfer y dyfodol

Calon: meddwl-agored; peidio barnu; hygyrch; croesawgar i bawb; gwrando; ymdeimlad o letygarwch; tegwch

Cysylltiedigedd: asiant sifil a dangosydd newid; cryfhau cymunedau; cynnwys pobl; cyd-greu; cysylltu pobl; haelioni; rhwydweithiau; partneriaethau

Llawenydd: darparu adloniant; lle i fynegi a dianc; hwyl; dathlu

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.