TELERAU AC AMODAU
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cynnig hawl i gyrchu a defnyddio’r wefan hon ar sail y telerau ac amodau canlynol:
1. O ddefnyddio’r wefan hon rydych chi’n derbyn y telerau ac amodau yma sy’n weithredol o’r dyddiad cyntaf ichi ddefnyddio’r wefan. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn cadw’r hawl i newid y Telerau ac Amodau hyn ar unrhyw adeg drwy bostio unrhyw newidiadau ar-lein. Drwy ddefnyddio'r wefan hon ar ôl i unrhyw newidiadau gael eu postio, byddwch chi'n derbyn y Telerau ac Amodau diwygiedig.
2. Dim ond ar gyfer eich defnydd personol ac anfasnachol eich hun y cewch chi ddefnyddio'r wefan hon. Chwech chi ddim copïo, atgynhyrchu, ailgyhoeddi, lawrlwytho, postio, darlledu na throsglwyddo deunyddiau mewn unrhyw ffordd ac eithrio at eich defnydd personol ac anfasnachol cartref eich hun. Bydd angen cael caniatâd ysgrifenedig y Cyngor ymlaen llaw i ddefnyddio'r wefan mewn unrhyw ffordd arall.
3. Rydych chi’n cytuno i ddefnyddio’r wefan at ddibenion cyfreithlon yn unig, ac mewn ffordd nad yw'n amharu nac yn cyfyngu ar ddefnydd neu fwynhad unrhyw drydydd parti o'r safle, nac yn achosi niwsans, anghyfleustra, neu bryder diangen i unrhyw drydydd parti. Mae’r fath gyfyngu neu amharu yn cynnwys, heb gyfyngiad, ymddygiad sy’n anghyfreithlon, difenwol, neu ddifrïol, neu a allai aflonyddu ar unrhyw berson, neu a allai achosi gofid, anghyfleustra, niwsans, neu fygythiad i unrhyw berson, neu drosglwyddo cynnwys anllad, bygythiol neu sarhaus, neu darfu ar lif arferol y deialog ar y wefan hon.
4. Mae’r wefan hon yn cynnwys cysylltau â gwefannau eraill, sydd ddim o reidrwydd yn cael eu gweithredu gan y Cyngor. Dyw’r Cyngor ddim yn gyfrifol, nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ychwanegu at y fath wefannau.
5. Mae’r Cyngor yn ymdrechu i sicrhau bod yr holl wybodaeth a deunydd ar y wefan yma yn union ac yn gywir, ond dyw e ddim yn derbyn unrhyw atebolrwydd am wallau neu ddiffygion. Dyw'r Cyngor ddim yn gwarantu chwaith y bydd defnydd y wefan yma yn ddi-dor. Mae'r Cyngor yn darparu'r deunydd sy'n cael ei gyhoeddi ar ei wefan ar y sail ei fod yn ymwadu â phob gwarant o ran deunydd o’r fath, boed yn bendant neu’n oblygedig. Nid yw’r Cyngor, ei weithwyr, ei gyflenwyr, na darparwyr gwreiddiol y deunydd yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw golled busnes, derbyniadau, neu elwon, neu iawndal arbennig, boed yn uniongyrchol, anuniongyrchol, cysylltiedig neu ganlyniadol, yn tarddu o gyhoeddi’r deunydd ar y wefan hon neu o ddefnydd o’r wefan hon.
6. Rydych chi’n cydnabod bod yr holl hawliau eiddo deallusol, gan gynnwys hawlfraint a hawliau cronfa ddata, yng ngwefan y Cyngor a’i gynnwys yn eiddo i’r Cyngor neu wedi’u trwyddedu i’r Cyngor a ddefnyddir fel arall gan y Cyngor fel y caniateir gan y gyfraith gymwysadwy.
7. Mae gan y Cyngor yr hawl i olygu unrhyw ddeunydd sy’n cael ei gyflwyno neu’i ychwanegu at y wefan hon yn ogystal â gwrthod ei bostio, neu'i symud. Dyw’r Cyngor ddim yn gyfrifol, nac yn derbyn unrhyw atebolrwydd am unrhyw ddeunydd sy’n cael ei ychwanegu at y wefan heblaw gan y Cyngor. Eiddo’r trydydd partïon o dan sylw yw unrhyw farnau, cyngor, datganiadau, neu wybodaeth arall sy'n ymddangos ar y wefan yma. Dyw'r Cyngor ddim yn cymeradwyo nac yn gyfrifol am gywirdeb neu atebolrwydd unrhyw ddeunydd trydydd parti o’r fath.
8. Cyfreithiau Cymru a Lloegr sy’n llywodraethu’r telerau ac amodau yma. Bydd unrhyw anghydfod sy’n tarddu o’r telerau ac amodau yma yn ddarostyngedig i awdurdodaeth neilltuedig llysoedd Cymru a Lloegr.
9. Os dewch chi o hyd i rywbeth ar y wefan hon sy’n peri pryder i chi, rhowch wybod inni.
10. Os ydych chi’n anfodlon ar unrhyw ran o’r wefan yma, neu unrhyw un o’r telerau ac amodau yma, rhowch y gorau i ddefnyddio’r wefan ar unwaith.
11. Os dyfernir bod unrhyw un o’r telerau yma yn anghyfreithlon, yn annilys, neu’n anorfodadwy fel arall, yna i’r graddau ei fod yn anghyfreithlon, yn annilys, neu’n anorfodadwy fel arall fe gaiff ei dynnu a’i ddileu o’r cymal hwn a bydd y telerau ac amodau sy’n weddill yn goroesi, yn dal mewn grym ac effaith lawn, a pharhau i fod yn rhwymol ac yn orfodadwy.
12. Newidiadau i achlysuron - rydyn ni'n cadw'r hawl i newid, canslo neu ohirio unrhyw achlysuron sy'n ymddangos ar y wefan yma heb rybudd.
Cwcis
Mae cwcis yn ffeiliau sy'n cael eu hanfon i'ch cyfrifiadur (neu ddyfais arall) o wefan y mae modd eu cyrchu yn hwyrach gan yr un wefan. Dydy cwcis ddim yn cynnwys gwybodaeth bersonol amdanoch chi a does dim modd eu defnyddio i adnabod defnyddiwr unigol.
Rydyn ni'n defnyddio cwcis er mwyn cael gwybodaeth ddienw ynglŷn â sut mae ein gwefan yn cael ei defnyddio ac i'n helpu ni i wybod beth sy'n ddiddorol a defnyddiol.
Mae'r rhan fwyaf o borwyr gwe yn derbyn cwcis yn ddiofyn. Serch hynny, os ydych chi'n anghyfforddus gyda chwcis, efallai y bydd modd i chi osod eich porwr fel y bydd pob cwci yn cael ei wrthod, neu, fel y byddwch chi'n cael gwybod pan fydd cwci yn cael ei anfon i'ch cyfrifiadur – bydd modd i chi ddewis derbyn neu wrthod y cwci wedyn.
Drwy wrthod neu analluogi ein cwcis, cofiwch ei bod hi'n bosibl na fydd modd i chi ddefnyddio rhai rhannau neu nodweddion o'n gwefan.
Sut mae rheoli a dileu cwcis
Fydd Theatrau RhCT ddim yn defnyddio cwcis i gasglu gwybodaeth a fydd yn eu galluogi i'ch adnabod chi. Serch hynny, os ydych chi'n dymuno cyfyngu ar y cwcis (neu eu rhwystro) sy'n cael eu gosod ar wefan Theatrau RhCT (neu ar unrhyw wefan arall), fe gewch chi wneud hyn drwy osodiadau eich porwr. Ewch i'r adran 'Cymorth' yn eich porwr i ddysgu sut mae gwneud hyn.
Fel arall, galwch heibio i www.aboutcookies.org sy'n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr ynglyn â sut i wneud hyn ar ystod eang o borwyr. Mae yma hefyd fanylion ynglyn â sut i ddileu cwcis o'ch cyfrifiadur yn ogystal â gwybodaeth fwy cyffredinol amdanyn nhw. I ddarganfod sut mae gwneud hyn ar eich ffôn symudol, bydd angen i chi edrych yn y llawlyfr.
Cofiwch efallai bydd cyfyngu ar gwcis yn effeithio ar berfformiad unrhyw un o wefannau Theatrau RhCT.
Cwcis sy'n cael eu gosod gan wefannau trydydd parti
I wella'n gwefannau, rydyn ni ambell waith yn gosod lluniau neu fideos o wefannau megis YouTube. O ganlyniad, pan fyddwch chi'n ymweld â thudalen gyda chynnwys sydd wedi'i osod o YouTube, mae'n bosibl y bydd cwcis yn cael eu gosod gan y gwefannau yma. Dydy Theatrau RhCT ddim yn rheoli lledaenu'r cwcis yma. Dylech chi fynd i'r wefan trydydd parti berthnasol i gael rhagor o wybodaeth am y rhain.
Nodwch: Os dewiswch chi beidio ag analluogi cwcis, rydych chi'n cytuno i ni eu defnyddio nhw ar ein gwefannau.
CWCIS AR GYFER MESUR Y DEFNYDD O WEFANNAU
Rydyn ni'n defnyddio Google Analytics i gasglu gwybodaeth am sut mae pobl yn defnyddio'r wefan yma. Rydyn ni'n gwneud hyn er mwyn sicrhau ei bod hi'n diwallu anghenion y defnyddwyr ac i ddeall sut mae modd i ni wneud hyn yn well.
Mae Google Analytics yn storio gwybodaeth am ba dudalennau rydych chi'n ymweld â nhw, faint o amser rydych chi ar y wefan, sut y daethoch yma a beth rydych chi'n clicio arno. Dydyn ni ddim yn casglu neu'n storio gwybodaeth bersonol (e.e. eich enw neu'ch cyfeiriad) felly fydd dim modd defnyddio'r wybodaeth yma i ddarganfod pwy ydych chi. Dydyn ni ddim yn caniatáu i Google ddefnyddio'n data na'u rhannu.
Data sy'n cael eu storio gan gwcis:
Mae _utma yn storio nifer yr ymweliadau, amser yr ymweliad cyntaf, yr ymweliad blaenorol a'r ymweliad presennol
Mae _utmb a _utmc yn gwirio pa mor hir y mae ymwelydd yn aros ar y safle: pan fydd ymweliad yn dechrau ac yn dod i ben
Mae _utmz yn cofnodi o ble mae'r ymwelydd wedi dod (peiriant chwilio, chwilio gyda geiriau, dolen gyswllt)
Mae _utmv a _utmd yn cofnodi teithiau ymwelwyr drwy'r safle ac yn eu rhoi nhw mewn grwpiau
Am faint mae cwcis yn para?
Mae _utma yn dod i ben ddwy flynedd ar ôl eich ymweliad diwethaf â'r wefan yma
Mae _utmb yn dod i ben 30 munud ar ôl eich ymweliad, neu ar ôl 30 munud o fod yn segur
Mae _utmc yn dod i ben ar ddiwedd sesiwn (pan fyddwch chi'n cau eich porwr)
Mae _utmz yn dod i ben chwe mis ar ôl iddo gael ei osod ddiwethaf
Mae _utmv (heb ei osod) yn dod i ben ar unwaith
Mae _utmd (heb ei osod) yn dod i ben ar unwaith