clare e. potter yw Artist mewn Gwasanaeth nesaf Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf (2025–26)
Mae Gwasanaeth y Celfyddydau a Diwylliant Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf yn falch iawn o gyhoeddi ein bod ni wedi penodi Clare Potter i rôl yr Artist mewn Gwasanaeth, a hynny wrth i'r Cyngor barhau i ddatblygu'r rhaglen arloesol yma sy'n rhoi artistiaid wrth wraidd bywyd dinesig a chymunedol.
Gwybodaeth am y Rhaglen Artist mewn Gwasanaeth
Menter arloesol sydd wedi'i chynllunio i archwilio sut mae modd i artistiaid ymgysylltu'n ystyrlon â phobl a lleoedd yn Rhondda Cynon Taf yw'r rhaglen Artist mewn Gwasanaeth. Wedi'i datblygu mewn ymgynghoriad â The Experience Business yn rhan o Raglen Cynllunio Gwerth i'r Cyhoedd, dyma fenter sy'n rhoi cyfle i artist lleol ddatblygu ei ymarfer creadigol trwy sgwrsio a chydweithio â chymunedau ledled yr ardal.
Mae'r swydd yn para 9 mis, o fis Hydref 2025 tan fis Mehefin 2026. Yn ystod y cyfnod yma, mae'r artist yn cael ei gyflwyno i wasanaethau ehangach yr awdurdod lleol a chaiff cymorth ei ddarparu fel bod modd i'r artist gysylltu ag unigolion a grwpiau o drigolion ledled y fwrdeistref sirol. Caiff yr artist ei annog i ymgymryd â'i ddiddordebau ac archwilio sut mae modd i themâu presennol neu sy'n dod i'r amlwg yn ei ymarfer ddiwallu anghenion y bobl y mae ef/hi yn ymgysylltu â nhw yn rhan o'r rhaglen.
Yn wahanol i breswylfeydd neu gomisiynau traddodiadol, does dim disgwyl i'r artist greu darn o waith na chynnal cyfres o weithdai. Mae'r gwaith yn canolbwyntio ar chwilfrydedd, cysylltiad a chyfnewid cydfuddiannol — gan werthfawrogi bod y broses yr un mor bwysig ag unrhyw ganlyniad posibl.
Yn dilyn llwyddiant yr Artistiaid mewn Gwasanaeth blaenorol, Harriet Fleuriot a Rhys Slade-Jones (2024–25), mae'r cyfnod newydd yma'n adeiladu ar yr hyn y maen nhw wedi'i ddysgu ac yn parhau i hyrwyddo cyfleoedd ymgysylltu artistig agored yn y gymuned.
clare e. potter
Mae Clare wrth ei bodd yn barddoni yn ei choedwig leol ger yr ynn a'r masarn. A hithau'n ymarferydd therapi barddoniaeth dan hyfforddiant, mae hi'n cynnal gweithdai lles creadigol, wedi'i hysgogi gan y gred y gall barddoniaeth greu newid personol a chymdeithasol. Mae hi'n cyflwyno rhaglenni radio gan gynnwys 'Max Boyce, The Tools are on the Bar,' a 'The Poet's Poet' a gafodd ei henwebu ar gyfer Gwobr Cyfryngau Celtaidd; cyfarwyddodd raglen ddogfen BBC Cymru, 'The Wall and the Mirror' yn trafod hanes barbwr ei phentref. Arweiniodd y rhaglen ddogfen hon at weithredu cymunedol i achub sefydliad y glowyr lleol yn ardal Cefn Fforest.
Mae Clare yn cynnig cymorth mentor ac yn cael ei mentora gan artistiaid eraill ac yn cydweithio â grwpiau cymunedol i greu gwaith sy'n berthnasol i'r ardal. Enillodd Wobr John Tripp am Farddoniaeth Lafar a chyfieithodd ar gyfer Bardd Cenedlaethol Cymru. Cyflawnodd rôl Awdur wrth ei Gwaith Gŵyl y Gelli ac mae hi wedi ennill Gwobr y Gymdeithas Lenyddiaeth Frenhinol/Gwobr Jerwood Cymru eleni. Mae ei phamffled barddoniaeth Cymraeg diweddaraf, Nôl Iaith, yn dilyn ei chasgliad Healing the Pack. Roedd Clare wedi cynrychioli'r Gymraeg yn rhan o 'Llif', achlysur ieithoedd Ewrop a oedd yn canolbwyntio ar ecoleg, argyfwng yr hinsawdd a diwylliant.
Meddai Clare:
Rwy'n falch iawn o gael fy mhenodi'n Artist mewn Gwasanaeth ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Mae gen i gariad mawr at yr ardal lle rydw i'n byw ac rwy'n edrych ymlaen at ehangu fy ngwybodaeth a'm gwerthfawrogiad o'n sir. Yma yn RhCT, mae gyda ni wledd o artistiaid a grwpiau cymunedol talentog sy’n gwneud yr ardal hon yn ardal wych i fyw ynddi, lle mae modd ffynnu. Rwy'n falch iawn o gael y cyfle i weithio ochr yn ochr â'r artistiaid yma, i gwrdd â rhagor o bobl, ac archwilio'r dirwedd hardd, gan fod yn rhan o'r creadigrwydd sy'n deillio o'r ardal hon.
Gwasanaeth y Celfyddydau a Diwylliant CBSRhCT
“Rydyn ni'n falch iawn bod Clare yn ymuno â ni fel yr Artist mewn Gwasanaeth nesaf ar gyfer Rhondda Cynon Taf. Dyma'r ail dro i ni benodi i'r rôl, ond mae'r rhaglen eisoes wedi denu diddordeb sylweddol yn yr awdurdod lleol a thu hwnt. Rydyn ni'n gwybod bod angen i'n perthynas ag artistiaid newid ym mhob rhan o'r sector, ac rydyn ni'n falch o gael cefnogaeth ein cymunedau, cyfoedion o bob cwr o'r awdurdod lleol ac aelodau etholedig i archwilio sut y gallai hynny edrych. Mae Clare eisoes wedi creu argraff gyda'i hangerdd dros ddiwylliant, pobl, lleoedd ac ieithoedd RhCT. Rwy'n edrych ymlaen at weld sut mae ei chwilfrydedd yn ein herio ac yn ein hysbrydoli!”
Jesse Briton, Rheolwr y Celfyddydau ac Ymgysylltu â'r Gymuned
Rhagor o Wybodaeth
I gael rhagor o fanylion am y rhaglen, cysylltwch â jesse.briton@rctcbc.gov.uk