Aladdin : Nadolig 2024
DYDD SADWRN 7 RHAGFYR 2PM A 6PM - WEDI EI GANSLO
Gan ein bod ni'n disgwyl tywydd peryglus ddydd Sadwrn 7 Rhagfyr, mae'r Cyngor wedi gwneud y penderfyniad anodd i ganslo'r perfformiadau oedd i fod am 2pm a 6pm.
Byddwn ni'n cysylltu â phawb sydd â thocyn ac yn cynnig ad-daliad llawn iddyn nhw.
Mae'n ddrwg gyda ni am unrhyw anghyfleustra, ond eich diogelu chi yw'n blaenoriaeth ni.
Cadwch yn ddiogel a theithio dim ond os oes rhaid.Yma i wireddu'ch breuddwydion!
Paratowch ar gyfer taith orau’ch bywyd wrth i Aladdin eich tywys ar ei garped hudol i Old Peking. Byddwch chi'n cwrdd â'r Weddw Twankey, Wishee Washee ac Abanazer drygionus mewn perfformiad sy'n llawn gwefr, cyffro a llond bol o chwerthin!
Mae gwisgoedd hyfryd, golygfeydd trawiadol a chast gwych sy'n creu panto traddodiadol godidog o fywiog i'r teulu cyfan.
Mae'n antur llawn comedi, effeithiau arbennig hudolus a digonedd o anhrefn y panto. Dyma bleser Nadoligaidd perffaith i'r teulu cyfan ei fwynhau!
Wedi’i hysgrifennau a’i chyfarwyddo gan Richard Tunley.
Perfformiad mewn amgylchedd ar gyfer ymlacio ar Dydd Sadwrn 7 Rhagfyr 2.00pm. Ar gyfer plant ifainc ac unrhyw un a fyddai'n gwerthfawrogi awyrgylch mwy hyblyg, hamddenol i fwynhau'r sioe. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chroeso i unrhyw un adael yr awditoriwm a dod yn ôl yn ystod y perfformiad. Bydd drysau'r theatr yn agor 30 munud cyn y sioe er mwyn caniatáu amser i ymgyfarwyddo â’r awditoriwm.
Perfformiad Disgrifiad Sain ar Dydd Sadwrn 7 Rhafyr 2.00pm. Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Gofynnwch yn y Swyddfa Docynnau os oes angen clustffonnau arnoch chi.
Mae perfformiadau ar gyfer ysgolion ar gael ar Dydd Iau 28 a Dydd Gwener 29 Tachwedd, Dydd Mawrth 3 - Dydd Gwener 6 Rhagfyr. Mae'r rhain ar gael i grwpiau ysgol yn unig. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu anfonwch e-bost at swyddfadocynnau@rctcbc.gov.uk i gadw lle ar gyfer eich ysgol. Mae lle am ddim i un athro am bob 10 tocyn rydych chi'n eu prynu.