Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Dai Cula: Prince of the Valleys

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 23 Hydref 2025 Celfyddydau: Comedi Drama
Dai Cula: Prince of the Valleys

Perfformiadau

  • Dydd Iau 23 Hydref 2025 Iau 23 Hyd 2025 23 Hyd 25 7:30yh BSL

Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr Coed Duon yn cyflwyno

Comedi newydd gan Richard Tunley

Wedi iddo wylio'r holl gyfres o Who Do You Think You Are? Mae Dracula yn credu'n sicr bod ganddo gwaed brenhinol, diolch i gysylltiad amheus rhwng 'Vlad the Impaler' a Thywysog Cymru. Felly, mae'n archebu arch o Temu sy'n cyrraedd mewn pecyn gwastad, yn cadw lle mewn Airbnb, a bant â fe i'r Fforest Ddu...ond, mae'n diweddu lan yng Nghoed-duon yng nghymoedd De Cymru!

Yn y lle cyntaf, mae'r bobl leol yn meddwl ei fod yn gymeriad ecsentrig sy'n gwisgo clogwyn. Ond wrth i bobl fynd ar goll heb reswm, mae'r garfan rheoli pla yn cael ei galw i ymchwilio'r cynnydd sydyn yn nifer yr ystlumod, mae trigolion y dref yn dechrau ystyried os yw'r ymwelydd newydd yn gymeriad arferol...

Comedi llawn chwerthin, balchder tua'r cymoedd, a rhyw faint o garlleg. Dyma gomedi am hunaniaeth, treftadaeth, a gwir ystyr bod yn Gymreig.

Black RAT Productions sy'n gyfrifol am y cynhyrchiad, felly byddwch yn barod am sioe llawn mynd, doniol, ac un sy'n aros yn y cof.

Argymhelliad - Addas ar gyfer pobl 11 oed a hŷn

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

Perfformiad wedi'i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain.  

 Cynhelir perfformiad wedi'i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer pobl ag anawsterau clyw sydd â Iaith Arwyddion Prydain fel eu dewis iaith. Bydd cyfieithydd yn sefyll ar un ochr i'r llwyfan ac yn dehongli'r holl berfformiad wrth iddo ddigwydd. ​

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.