Full House
In Stiwdio 1
FULL HOUSE
Byddwch yn barod am hwyl a sbri!
Ysgrifennwyd gan Hannah Lad
Cyfarwyddwyd gan Hannah McPake
Dewch i chwarae yn Full House – noson bingo ar ei orau. Sam yw eich gwesteiwr, bydd hi'n galw'r rhifau, ond beth sydd wir yn digwydd gyda hi mewn gwirionedd? Ydy hi'n iawn? Noson bingo ydy hon, ie? Pam bod gyda hi wrn?
Mae drama ddoniol a chyffrous Hannah Lad yn cymysgu doniolwch ag ychydig o dristwch i adrodd stori falch o'r Cymoedd am y llawenydd, y golled a'r cariad sy'n siapio pwy ydym ni. Mae gan Full House bopeth y gallech chi fod ei eisiau o noson allan wych yn y theatr; chwerthin, syrpreisys a llawer o galon – HOUSE!
Yn addas i bobl 16 oed a hŷn
Hyd y sioe: 50 munud (dim egwyl)
Cyd-gynhyrchiad gyda Theatrau Rhondda Cynon Taf, gyda chymorth Theatr Sherman a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Gwybodaeth bwysig: Yn cynnwys iaith gref a themâu o alar a gamblo. Hefyd, goleuadau sy'n fflachio, synau mawr a rhannau rhyngweithiol sy'n cynnwys y gynulleidfa
Byddwn ni hefyd yn cynnal Teithiau Cyffwrdd am ddim o'r set ddydd Mercher 25 Chwefror a dydd Iau 26 Chwefror am 6.00pm. Dim ond hyn a hyn o leoedd sydd ar gael. Y cyntaf i'r felin fydd hi. Mae 'Taith Gyffwrdd' yn wych ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd ag amhariad ar eu golwg, gan roi cyfle iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.
Disgrifiad Clywedol Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn pob perfformiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur. Gofynnwch yn y Swyddfa Docynnau os oes angen clustffonau arnoch chi.
Dehonglydd Iaith Arwyddion Prydain (‘BSL’): Julie Doyle
Perfformiad wedi'i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain ddydd Mercher 25 Chwefror am 7pm. Cynhelir perfformiad wedi'i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer pobl ag anawsterau clyw sydd ag Iaith Arwyddion Prydain fel eu dewis iaith. Bydd cyfieithydd yn sefyll ar un ochr i'r llwyfan ac yn dehongli'r holl berfformiad wrth iddo ddigwydd.
Bydd perfformiad i ysgolion ddydd Iau, 26 Chwefror am 12.30pm. Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu e-bostiwch swyddfadocynnau@rctcbc.gov.uk i brynu tocynnau.