Diweddaru oriau agor y Swyddfa Docynnau o ddydd Llun, 1 Mehefin 2026.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth rhwng 10am a 4pm.
Mae’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau rhwng 10am a 4pm.
Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 10am a 4pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.
Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

JUKEBOX LIVE

Rhan o Dydd Mawrth Mentrus!

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 22 Medi - 10 Tachwedd 2026 Celfyddydau: Cerddoriaeth
JUKEBOX LIVE

Perfformiadau

  • Dydd Mawrth 22 Medi 2026 Maw 22 Medi 2026 22 Medi 26 10:30am
  • Dydd Mawrth 20 Hydref 2026 Maw 20 Hyd 2026 20 Hyd 26 10:30am
  • Dydd Mawrth 10 Tachwedd 2026 Maw 10 Tach 2026 10 Tach 26 10:30am

gyda Steve Preston

Wyddoch chi fod canu yn dda ar gyfer gweithgarwch yr ymennydd, eich lles a’ch hwyliau?  Does dim angen i chi fod yn ganwr da i elwa ar hyn. Mae croeso i bawb yn yr achlysur yma, p'un a ydych chi o’r farn eich bod chi’n gallu canu ai peidio.

Dewch i ganu mewn sesiwn anffurfiol, llawn hwyl, lle bydd modd i chi ddewis y caneuon o'n ‘jukebox’ rhithwir. Byddwch chi'n gadael y sesiwn yn teimlo'n hapus ac yn canu (neu hymian) o hyd. 

Pwrpas y côr yw mwynhau a gwneud ffrindiau mewn sesiwn sy’n deall dementia, waeth beth yw eich gallu.

Mae croeso i bawb yn ein Bar Cwtsh sy'n gwbl hygyrch. 

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.