Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Jurassic World: Rebirth (12A)

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 25 - 31 Gorffennaf 2025 Celfyddydau: Sinema
Jurassic World: Rebirth (12A)

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 25 Gorffennaf 2025 Gwen 25 Gorff 2025 25 Gorff 25 6:45yh
  • Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf 2025 Sad 26 Gorff 2025 26 Gorff 25 2:00yh
  • Dydd Llun 28 Gorffennaf 2025 Llun 28 Gorff 2025 28 Gorff 25 2:00yh
  • Dydd Mawrth 29 Gorffennaf 2025 Maw 29 Gorff 2025 29 Gorff 25 6:45yh
  • Dydd Mercher 30 Gorffennaf 2025 Mer 30 Gorff 2025 30 Gorff 25 6:45yh
  • Dydd Iau 31 Gorffennaf 2025 Iau 31 Gorff 2025 31 Gorff 25 6:45yh

Pennod newydd sbon llawn antur sy'n dilyn carfan ddewr wrth iddyn nhw rasio i gael samplau DNA gan dri o'r creaduriaid mwyaf ar y tir, yn y môr, ac yn yr awyr.

Pum mlynedd wedi digwyddiadau Jurassic World Dominion, mae ecoleg y blaned wedi troi'n anaddas ar gyfer dinosoriaid. Mae'r rheiny sy'n weddill yn bodoli mewn amgylcheddau cyhydeddol unig gyda hinsoddau tebyg i'r rheiny roedden nhw'n arfer ffynnu ynddyn nhw. Mae'r tri chreadur mwyaf yn y bïosffer trofannol yna yn meddu ar yr allwedd fydd yn datguddio cyffur fydd yn dod â buddion gwyrthiol i ddynoliaeth all achub bywydau.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.