Bydd Swyddfa Docynnau Theatr y Colisëwm yn cau o ddydd Mawrth 23 Rhagfyr tan ddydd Mawrth 6 Ionawr.

Bydd Swyddfa Docynnau Theatr y Parc a'r Dâr yn cau o ddydd Iau 18 Rhagfyr tan ddydd Iau 8 Ionawr.

Bydd Swyddfa Docynnau’r Olwg yn cau o ddydd Gwener 19 Rhagfyr tan ddydd Llun 5 Ionawr.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Nadolig Llawen a Blwyddyn Newydd Dda gan Theatrau RhCT!

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Max Boyce

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 8 Mai 2026 Celfyddydau: Amrywiaeth/Adloniant Ysgafn
Max Boyce

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 8 Mai 2026 Gwen 8 Mai 2026 8 Mai 26 7:30yh

Mae Max yn ei ôl!

Mae Max Boyce wedi bod yn diddanu cynulleidfaoedd ers dros 40 mlynedd. Gyda'i allu i ddisgrifio pobl a phethau drwy eiriau a chân, mae Max wedi perfformio yn rhai o neuaddau cyngerdd mwyaf adnabyddus y byd, gan gynnwys yr Albert Hall a’r Sydney Opera House. Mae hyd yn oed wedi cyflwyno sioe deledu ei hun. Mae Max Boyce yn seren, ac mae ei berfformiadau ar y llwyfan a'r sgrin wedi’i wneud yn un o arwyr mwya’r genedl.

Mae perfformiadau byw Max yn parhau i godi gwên i gynulleidfaoedd o bob oed, ac mae'r gymeradwyaeth ar ddiwedd ei berfformiadau’n nodi faint mae pawb wedi mwynhau! Peidiwch â cholli'r cyfle unigryw i weld Max Boyce yn fyw, bydd modd adrodd hanes ei sioe i'ch ffrindiau am weddill eich oes!



Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.