Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

O ddydd Llun 8 Medi, bydd llinell ffôn ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am–4pm ar gyfer cwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

No Man’s Land

In Stiwdio 1

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 23 - 25 Hydref 2025
No Man’s Land

Perfformiadau

  • Dydd Iau 23 Hydref 2025 Iau 23 Hyd 2025 23 Hyd 25 7:00yh C
  • Dydd Gwener 24 Hydref 2025 Gwen 24 Hyd 2025 24 Hyd 25 7:00yh AD BSL C
  • Dydd Sadwrn 25 Hydref 2025 Sad 25 Hyd 2025 25 Hyd 25 7:00yh C

“you’ve got to get on with your life, Lew. Grudges won’t do you any good.”

Mae'r ysgrifenwraig arobryn Rachel Trezise yn cyfleu profiad bywyd Kyle Stead yn rhan o’r ddrama newydd sbon yma.

Wedi’i chyfarwyddo gan Matthew Holmquist.

Mae No Man's Land yn ddrama seicolegol wefreiddiol newydd sy'n rhoi sylw i glwyfau cudd ysbryd sy'n ddeilchion. Mae'r frwydr i oroesi yn digwydd yn y meddwl.

Beth yw brawdoliaeth? Brawd mawr i'ch amddiffyn. Beth os nad yw'n gwneud hynny?

Mae’r ddrama wedi’i lleoli yng Nghwm Rhondda, rydyn ni'n dilyn hanes Lewis wrth iddo fynd ar daith drwy ddau fyd er mwyn darganfod yr hyn fydd yn glawr ar bennod yn ei fywyd. Byd o realaeth a thir neb, dystopia wedi'i sbarduno gan drawma sydd ond yn bodoli ym meddwl Lewis.

Beth sy'n digwydd pan mae'r byd yn dweud wrthych chi i fod yn ddewr ond mae pob rhan ohonoch chi yn ddeilchion?

“It never goes away. My whole body constantly on red alert.”

A fydd Lewis yn wynebu ei drawma neu'n parhau i fyw yn ei gysgod?

Cyd-gynhyrchiad rhwng Kyle Stead, Theatr y Sherman a Theatrau Rhondda Cynon Taf gyda chymorth gan Platfform.

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru.

Mae cymorth lles ar gyfer y cwmni a’r gynulleidfa wedi'i ddarparu gan Silence Speaks.

Dehonglwr Iaith Arwyddion Prydain y perfformiad: Stephen Brattan-Wilson

Bydd is-deitlau Saesneg ar gael ar gyfer pob perfformiad.

Yn addas i bobl dros 16 oed

Gwybodaeth bwysig: Mae'r sioe yma yn mynd i'r afael â themâu cam-driniaeth rhywiol. Mae’n cynnwys rhai golygfeydd all beri gofid i'r gynulleidfa, cyfeiriadau at drais, misogynedd, homoffobia, trawsffobia ac iaith gref.


Perfformiad â Sain Ddisgrifiad ar dydd Gwener 24 Hydref 7.00pm. Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy perfformiad â Sain Ddisgrifiad, sy’n addas ar gyfer pobl sydd â nam ar eu golwg. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy glustffonau sydd wedi’u cysylltu â'r system sain is-goch. Gofynnwch yn y Swyddfa Docynnau os oes angen clustffonau arnoch chi.-red audio system. Please ask at the Box Office if you require a headset.


Perfformiad wedi'i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain ar Dydd Gwener 24 Hydref 7.00pm. Cynhelir perfformiad wedi'i ddehongli trwy Iaith Arwyddion Prydain (BSL) ar gyfer pobl ag anawsterau clyw sydd â Iaith Arwyddion Prydain fel eu dewis iaith. Bydd cyfieithydd yn sefyll ar un ochr i'r llwyfan ac yn dehongli'r holl berfformiad wrth iddo ddigwydd. ​

Perfformiad  Chapsiynau. Mae capsiynau'n rhoi cyfle i ni weld deialog y perfformiad ar sgrin sydd wrth ochr y llwyfan ac maen nhw hefyd yn disgrifio sain y perfformiad gan roi cyfle i aelodau'r gynulleidfa sy'n fyddar neu'n drwm eu clyw ddilyn sgript a sain y perfformiad ar yr un pryd.

Perfformiad yr ysgol ddydd Gwener 24 Hydref am 12.30pm.
Ffoniwch y Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444 neu e-bostiwch BoxOffice@rctcbc.gov.uk i archebu eich tocynnau.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.