Diweddaru oriau agor y Swyddfa Docynnau o ddydd Llun, 1 Mehefin 2026.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth rhwng 10am a 4pm.
Mae’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau rhwng 10am a 4pm.
Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 10am a 4pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.
Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

NOSON YNG NGHWMNI HYWEL A BETI

Canolfan: Y Garth Dyddiad: 15 Ionawr 2027 Celfyddydau: Achlysuron Cymraeg
NOSON YNG NGHWMNI HYWEL A BETI

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 15 Ionawr 2027 Gwen 15 Ion 2027 15 Ion 27 7:30pm

Dau o eiconau’r byd darlledu yng Nghymru. Dyna yw Hywel Gwynfryn a Beti George. Y ddau bellach yn eu wythdegau – ond rhaid eu bod nhw’n bwyta rhywbeth arbennig iawn i frecwast gan eu bod nhw’n dau yn edrych yn llawer iau na’u hoedran. Peth braf hefyd yw bod y ddau dal yn gweithio’n gyson ar S4C ac wrth gwrs BBC Radio Cymru. Heb os byse’r byd dralledu yng Nghymru yn llawer tlotach hebddyn nhw

Mae ei lleisiau a’u wynebau wedi bod yn rhan o aelwydydd Cymru ers y 60au. Felly meddyliwch am y storiau sydd ganddynt i’w hadrodd.

Yn Noson Yng Nghwmni Hywel a Beti (Cynhyrchiad Ad/Lib Cymru) cawn gyfle i glywed y storiau hynnu pan fydd Hywel a Beti’n dod ynghyd ar lwyfan. Yn hanner cynta’r sioe fe fydd Hywel yn holi Beti ac yna’n yr ail hanner Beti’n holi Hywel.

Cawn hanes cynnar Beti yng Nghoed Y Bryn, Ceredigion ac hefyd plentyndod Hywel ar Ynys Mon,blynyddoedd lawer cyn iddyn nhw ymlwybro i Gaerdydd – Hywel i Goleg Cerdd a Drama Cymru yn y 60au a Beti’n symyd wedi cyfnod gyda BBC Abertawe.

Noson heb ei hail heb os.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.