READY, LET'S GO! LIVE
Perfformiadau
- Dydd Sadwrn 20 Chwefror 2027 Sad 20 Chwef 2027 20 Chwef 27 2:30pm
Y Cyngerdd Rhyngweithiol Gorau i Blant!
Dewch yn llu i NEIDIO, DAWNSIO, CANU, BOWNSIO A CHWARAE mewn sioe llawn egni.
Dyma sioe sy'n cynnwys delweddau ar y sgrin fawr, perfformiadau llawn egni, caneuon i gyd-ganu a gemau i chwarae, heb son am y pethau annisgwyl fydd yn siŵr o ddiddanu plant bach. Byddwch chi'n siŵr o fod ar eich traed o'r gân gyntaf i'r ddawns olaf.
DYMA SIOE LLE MAE'R PLANT YN CYMRYD RHAN...
Maen nhw'n chwarae rhan allweddol yn y sioe!
Byddan nhw'n canu a dawnsio i'r gerddoriaeth, copïo symudiadau'r perfformwyr, cymryd rhan yn yr heriau a dod yn rhan o gyffro'r perfformiad.
Pan glywch chi...
MAE'R LLAWR YN LAFA!
...byddwch yn barod i NEIDIO!
Bydd digon i'ch cadw'n brysur wrth i chi ddawnsio gyda'r perfformwyr a chwerthin yn uchel. Dyma sioe sydd wedi'i chynllunio i sicrhau bod y gynulleidfa'n symud, gwenu a chymryd rhan.
Mae'r sioe yn cynnwys cymeriadau lliwgar, cyffro ac egni, ac awyrgylch sy'n annog pawb i fod yn rhan o'r perfformiad. Mae SIOE READY, LET’S GO! LIVE yn antur i'r teulu i gyd yn y theatr.
Yn addas ar gyfer plant bach llawn egni (yn ogystal â'u rhieni!)
Ydych chi'n barod?
BAROD...AMDANI!
Yn addas i bob oed.
Am ddim i fabanod dan 12 mis oed sydd yng nghwmni oedolyn sydd wedi talu am docyn. Mae modd prynu tocynnau o'r Swyddfa Docynnau.
Hyd: 1 awr - fydd dim egwyl.