Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

O ddydd Llun 8 Medi, bydd llinell ffôn ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am–4pm ar gyfer cwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

RHOD GILBERT & THE GIANT GRAPEFRUIT

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 25 - 26 Mawrth 2026 Celfyddydau: Comedi
RHOD GILBERT & THE GIANT GRAPEFRUIT

Perfformiadau

  • Dydd Mercher 25 Mawrth 2026 Mer 25 Maw 2026 25 Maw 26 7:30yh
  • Dydd Iau 26 Mawrth 2026 Iau 26 Maw 2026 26 Maw 26 7:30yh

Tocynnau Cynnar (sydd heb fod ar werth i bawb):  Dydd Mawrth 9 Rhagfyr 10.00am.  Gwiriwch sianeli cyfryngau cymdeithasol Rhod i ddod o hyd i fanylion am god 'tocynnau cynnar'

Ar werth i bawb: Dydd Mercher 10 Rhagfyr 10.00am

Yn dilyn ei daith anhygoel (146 dyddiad) o'r DU ac Iwerddon, mae Rhod yn dod a'i daith i ben gyda dau berfformiad arbennig, agos atoch yn y Cymoedd.

Ar ôl dwy flynedd o theatrau llawn ac adolygiadau gwych, bydd taith Rhod yn dod i ben mewn dau berfformiad cofiadwy a fydd yn cael eu recordio i'w dosbarthu.

Peidiwch â cholli'r sioeau gwych yma sy’n rhoi cyfle i chi weld Rhod ar ei orau wrth iddo ddenu'r gynulleidfa gyda'i gomedi calonogol yn dilyn trywydd ei fywyd byrlymus.

Bydd yr holl elw'n mynd at Ganolfan Ganser Felindre yng Nghaerdydd. Mae Rhod wedi'u cefnogi nhw ers dros ddegawd, ac mae'n ddiolchgar iddyn nhw'n bersonol hefyd am achub ei fywyd pan gafodd ddiagnosis o ganser.

Dywedodd Rhod:

"Mae wedi bod yn ddwy flynedd anhygoel. Mae mynd â'r sioe yma ar daith wedi bod yn hynod emosiynol, ac rydw i wedi cael fy ysbrydoli gan y bobl rydw i wedi cyfarfod â nhw mewn cynulleidfaoedd ledled y wlad. Rydyn ni wedi chwerthin yn uchel a rhannu straeon cyffrous, ac alla i ddim meddwl am ffordd well o gloi hyn i gyd na recordio'r sioe yn ôl yng Nghymru o flaen cynulleidfa gartref. Mae'r ddwy sioe yn rhoi cyfle i mi roi diolch enfawr i'r GIG ac i Ganolfan Ganser Felindre sy'n hollol wych - mae arna i fy mywyd iddyn nhw."

“RAGE, HEART AND LASHINGS OF DARK HUMOUR…ECHOES OF BILLY CONNOLLY, HE’S THAT GOOD” ⭐⭐️⭐️⭐⭐ Evening Standard

“KNOCKOUT SHOW WITH BIG LAUGHS AND A BIG HEART” ⭐⭐️⭐️⭐ Guardian

Rhybudd cynnwys – mae'r sioe yma'n ymwneud â diagnosis, triniaeth a phrofiadau cysylltiedig Rhod â chanser. Bydd y pynciau yma oll yn cael eu trin â hiwmor du nodweddiadol Rhod. Cofiwch hynny cyn prynu tocyn.

Uchafswm o 4 tocyn fesul person. Cyfyngiadau o ran Oedran: 16+

Bydd yr achlysur yma'n cael ei recordio er mwyn ei ddosbarthu.

Nid yw lleoedd i gadeiriau olwyn a thocynnau Hynt wedi'u cynnwys yn y cynnig 'Tocynnau Cynnar' ar-lein, ond mae modd eu prynu drwy ffonio'r Swyddfa Docynnau ar 03000 040 444.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.