Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00am tan 2.00pm

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun  i ddydd Gwener 10.00am –4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Riverdance 25th Anniversary Show (U)

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 10 Mehefin 2026 Celfyddydau: Digwyddiadau Sinema
Riverdance 25th Anniversary Show (U)

Perfformiadau

  • Dydd Mercher 10 Mehefin 2026 Mer 10 Meh 2026 10 Meh 26 6:45yh

Cafodd Riverdance ei greu yn y lle cyntaf i fod yn berfformiad yn ystod egwyl y  gystadleuaeth Eurovision Song Contest yn 1994. Erbyn hyn, mae'n ffenomen fyd eang.

Dyma ddangosiad wedi'i ailryddhau o'r cynhyrchiad a oedd yn dathlu 25 mlynedd ers y perfformiad hwnnw; ailddychmygiad pwerus a chyffrous o'r sioe sy'n cael ei dathlu ledled y byd am ei cherddoriaeth sydd wedi ennill gwobr Grammy ac egni ac angerdd gwefreiddiolei dawnsio Gwyddelig a rhyngwladol.

Cewch weld saethiadau agos, y traed anhygoel o chwim, mynegiant ac emosiynau’r dawnswyr a'r cerddorion, ac onglau creadigol y camera sy'n dangos y gwaith mewn modd agosach a manylach na'r hyn y byddai modd i gynulleidfa ei weld wrth eistedd yn yr awditoriwm.

Mae rhaglen ddogfen fer yn cael ei dangos cyn y sioe, ac ynddi fanylion ynghylch hanes Riverdance. Yn ystod yr egwyl, cewch gipolwg y tu ôl i len y sioe anhygoel yma.

Hyd y ffilm:  2 awr, yn cynnwys toriad.

Yn cynnwys golygfa o oleuadau sy'n fflachio a allai effeithio ar unigolion sy'n dueddol o ddioddef o epilepsi ffotosensitif.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.