Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.
Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.
O ddydd Llun 8 Medi, bydd llinell ffôn ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am–4pm ar gyfer cwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.
Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.
Paratowch am noson fythgofiadwy gydag un o berfformwyr mwyaf swynol y byd.
Daeth Russell Watson – y canwr enwog sy'n croesi ffiniau genres cerddorol –i'r amlwg ar y sin gerddorol gyda'i albwm 'The Voice', a wnaeth dorri recordiau a dwyn calonnau ledled y byd. Ers hynny, mae wedi gwerthu miliynau o albymau, perfformio i'r teulu brenhinol, arlywyddion a phabau, ac wedi rhannu'r llwyfan gyda cherddorion anhygoel.
Nawr, yn ei daith fwyaf agos atoch hyd yn hyn, mae Russell yn mynd â chi ar daith trwy uchelfannau ac iselfannau ei fywyd anhygoel – o gyrraedd brig y siartiau i oroesi nid dim ond un, ond dau salwch sydd wedi bygwth ei fywyd. Gyda chynhesrwydd, llawenhad a llais sy'n swyno, bydd e'n rhannu ei straeon personol o'r tu ôl i'r llenni.
Dylech chi ddisgwyl perfformiadau pwerus o glasuron annwyl, llais gwefreiddiol, a straeon y tu ôl i'r llenni gan ddyn sydd wedi byw bywyd a hanner.
Dyma berfformiad sy'n fwy na chyngerdd – mae'n gyfle prin i dreulio noson gyda'r 'Llais' ei hun.
Tocynnau VIP
£86 Tocyn Cwrdd a Chyfarch. Mae'r pecyn yn cynnwys y bag nwyddau a chyfle i gwrdd a sgwrsio gyda Russell cyn y sioe. Dewch erbyn 5.45pm ar gyfer y sesiwn Cwrdd a Chlebran am 6.00pm.
£51 Tocyn VIP. Mae'r pecyn yn cynnwys y bag nwyddau.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
AD
Disgrifiad Sain
Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.
BSL
Iaith Arwyddion Prydain
Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.
T
Taith Gyffwrdd
Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.
C
Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau
Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.
Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.