Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

O ddydd Llun 8 Medi, bydd llinell ffôn ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am–4pm ar gyfer cwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Superstar : A Musical Evening with Ben Forster

Yn cynnwys caneuon o The Phantom Of The Opera, Jesus Christ Superstar a sioeau cerdd poblogaidd eraill y West End.

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Dyddiad: 3 Hydref 2026 Celfyddydau: Cerddoriaeth
Superstar : A Musical Evening with Ben Forster

Perfformiadau

  • Dydd Sadwrn 3 Hydref 2026 Sad 3 Hyd 2026 3 Hyd 26 7:30yh

Cafodd Ben Forster lwyddiant mawr pan enillodd raglen Syr Andrew Lloyd Webber, Superstar, ar ITV yn 2012.

Ar ôl serennu yn sioe gerdd Jesus Christ Superstar a aeth ar daith lwyddiannus iawn o gwmpas arenâu, daeth yn un o brif actorion y West End. Daeth rhagor o lwyddiant ar ôl perfformio'n brif gymeriad addasiad cerddorol Lloyd Webber o The Phantom of the Opera.

Roedd sioeau cerdd poblogaidd eraill cyn ac ar ôl hynny – gan gynnwys Grease, Thriller – Live, The Rocky Horror Show, Evita, Elf, a rhagor. Yn y sioe bersonol yma, bydd Ben yn canu'r caneuon poblogaidd hynny a arweiniodd at ei lwyddiant, yn ogystal â rhannu straeon am ei fywyd yng ngolwg y cyhoedd, a fydd yn cipio chwilfrydedd y gynulleidfa.


Tocynnau VIP

£76 Tocyn Cwrdd a Chyfarch. Mae'r pecyn yn cynnwys y bag nwyddau a chyfle i gwrdd a sgwrsio gyda Ben cyn y sioe. Dewch erbyn 5.45pm ar gyfer y sesiwn Cwrdd a Chlebran am 6.00pm.

£46 Tocyn VIP. Mae'r pecyn yn cynnwys y bag nwyddau.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.