Diweddaru oriau agor y Swyddfa Docynnau o ddydd Llun, 1 Mehefin 2026.
Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth rhwng 10am a 4pm. Mae’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau rhwng 10am a 4pm. Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 10am a 4pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar. Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.
Galwad Agored i Berfformwyr Theatrig Lleol: Rhaglen Stiwdio 1 Ionawr i Mawrth 2027
5 Hydref 2026
Rydym yn chwilio am artistiaid lleol talentog i gymryd rhan yn ein RhaglenTheatrig yn Stiwdio 1 y Gwanwyn 2027, a byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.
Mae hwn yn gyfle perfformio â thâl i Berfformwyr sydd am gyflwyno eu gwaith ar lwyfan a chysylltu â chynulleidfaoedd lleol.
Rydym yn Chwilio am:
Cantorion-gyfansoddwyr caneuon
Cerddorion a bandiau
Perfformwyr drama a theatr
Perfformwyr geiriau llafar
Comediwyr
Actau perfformio byw eraill
P'un a ydych yn berfformiwr profiadol neu'n artist newydd sy'n chwilio am gyfle i rannu eich gwaith, rydym yn eich annog i wneud cais.
Sut i Wneud Cais
Er mwyn cael eich ystyried, anfonwch:
Cyflwyniad byr amdanoch chi eich hun neu eich act
Fideo yn dangos eich perfformiad
Dolenni i unrhyw gyfrifon cyfryngau cymdeithasol, gwefannau neu waith blaenorol perthnasol (os oes gennych rai)
Rhowch wybod i ni sut fyddwch yn ymgysylltu gyda'r Gymuned leol.
Yn Newydd i Berfformio?
Os nad ydych eto'n teimlo'n ddigon hyderus i berfformio sioe lawn, hoffem glywed gennych o hyd. Gallwn gynnig slotiau cefnogi, gan roi cyfle i artistiaid sy'n datblygu ennill profiad o berfformio o flaen cynulleidfa fyw fel rhan o ddigwyddiad mwy.
Pam Cymryd Rhan?
Cyfleoedd perfformio â thâl
Profiad o berfformio mewn lleoliad theatr proffesiynol
Cyfle i gyrraedd cynulleidfaoedd newydd
Cyfle i gysylltu ag artistiaid lleol eraill
Cefnogaeth i dalent sy'n datblygu
Cymhwysedd
Dylai ymgeiswyr fod yn byw yn Rhondda Cynon Taf, neu fod â chysylltiad cryf â'r ardal.
Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau:DYDD LLUN 26 HYDREF 12.00pm.
I wneud cais, anfonwch eich fideo a'ch manylion at:theatrau@rctcbc.gov.uk
Edrychwn ymlaen at ddarganfod a dathlu'r dalent greadigol anhygoel sydd i'w chael ledled Rhondda Cynon Taf y gwanwyn.
Gwnewch gais nawr a byddwch yn rhan o'n RhaglenTheatrig yn Stiwdio 1 y Gwanwyn!
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
AD
Disgrifiad Sain
Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.
BSL
Iaith Arwyddion Prydain
Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.
T
Taith Gyffwrdd
Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.
C
Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau
Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.
Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.