Cyfle i gymryd rhan ym Mhanto Hudol Theatrau RhCT – 'Jack and the Beanstalk'

Wyt ti rhwng 10 a 19 oed, ac a fyddet ti'n hoffi'r cyfle i berfformio ar lwyfan yn rhan o gynhyrchiad proffesiynol?
Dyma dy gyfle, mae Carfan Panto Theatrau RhCT yn chwilio am bobl egnïol ac angerddol i ymuno â chast 'Jack and the Beanstalk'.
Bydd y perfformiad gwefreiddiol yma'n cael ei gynnal yn Theatr y Colisëwm, Aberdâr, a Theatr y Parc a'r Dâr, Treorci, o ddydd Gwener, 28 Tachwedd tan ddydd Mercher, 24 Rhagfyr 2025.
Rhaid i chi fod ar gael i berfformio o ddydd Iau 27 Tachwedd i ddydd Mercher 24 Rhagfyr. Rhaid i chi hefyd allu teithio i'r theatrau ar eich pen eich hun gan na fydd cludiant yn cael ei ddarparu.
Cynhelir clyweliadau i ymuno â Chriw Panto Take pART ym Mhontypridd ar:
Dydd Sul, 21 Medi rhwng 1.00pm a 5.00pm, bydd y lleoliad yn ardal Pontypridd yn cael ei gadarnhau pan fydd eich clyweliad yn cael ei gadarnhau.
Gofynion y Clyweliad
Er mwyn ymgeisio, rhaid i ti fod rhwng 10 a 19 oed ac ar gael ar gyfer dyddiadau'r perfformiad.
Dyma weithdy hwyl a fydd yn rhoi cyfle i chi ymlacio a dangos eich sgiliau. Does dim angen i chi baratoi unrhyw beth.
Yn y clyweliadau byddwch chi’n cymryd rhan mewn gweithdy grŵp gyda'r coreograffydd, mewn perfformiadau Jazz, Dawns Fasnachol a Theatr Gerdd.
Gwisgwch ddillad addas a naill ai esgidiau jazz neu esgidiau ymarfer corff.
Os ydych chi'n dymuno cadw lle, e-bostiwch: takepartpantocrew@gmail.com. Cofiwch gynnwys eich enw, oedran, ble rydych chi'n byw a'r hyfforddiant dawns rydych chi wedi'i gyflawni hyd yma.
Mae bod yn rhan o Banto yn ffordd gyffrous o ddod â'r flwyddyn i ben, ac mae ein dawnswyr bob tro’n mwynhau profiad gwych. Beth am roi cynnig arni?
Pob lwc!