Diweddaru oriau agor y Swyddfa Docynnau o ddydd Llun, 1 Mehefin 2026.
Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth rhwng 10am a 4pm. Mae’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau rhwng 10am a 4pm. Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 10am a 4pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar. Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.
Sioe wedi'i chyflwyno gan Showcase Performing Arts
Dyma sioe gerdd ddoniol sy'n codi ysbryd, gan gynnwys sgôr anhygoel gan y gantores cerddoriaeth gwlad fyd-enwog Dolly Parton. Mae'r sioe yn llawn sass, steil, a disgleirdeb Dolly!
Dilynwch stori tri gweithiwr swyddfa sydd wedi cael llond bol o'u rheolwr gormesol, siofinaidd. Pan mae syniad gwyllt yn troi’n gynllun beiddgar o ddial, mae anhrefn, comedi a chwaeroliaeth yn dod i'r fei ar y llwyfan.
Wedi'i hysbrydoli gan ffilm adnabyddus yr 1980au, dyma stori lawen am gyfeillgarwch, dewrder, a brwydro dros yr hyn sy'n iawn, a hyn oll gyda chaneuon cofiadwy y byddwch chi'n eu canu yn hir ar ôl i'r llenni gau.
Yn addas i bobl 12 oed a hŷn Mae'r cynhyrchiad yma'n cynnwys cyfeiriadau rhywiol doniol, defnydd ysgafn o gyffuriau a rhegi achlysurol
Mae'n bosibl y bydd yna oleuadau strôb, synau swnllyd, effeithiau sain sy'n dynwared ergydion gwn a niwl theatrig.
Mae'r cynhyrchiad amatur yma'n cael ei gyflwyno ar y cyd â Music Theatre International.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
AD
Disgrifiad Sain
Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.
BSL
Iaith Arwyddion Prydain
Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.
T
Taith Gyffwrdd
Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.
C
Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau
Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.
Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.