Diweddaru oriau agor y Swyddfa Docynnau o ddydd Llun, 1 Mehefin 2026.
Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth rhwng 10am a 4pm. Mae’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau rhwng 10am a 4pm. Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 10am a 4pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar. Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.
Ymunwch â Phil “The Power” Taylor, enillydd Pencampwriaeth y Byd 16 gwaith, am noson fythgofiadwy wrth iddo rannu straeon ei yrfa ddisglair.
Drwy gyfweliad manwl, bydd Phil yn rhannu straeon ei daith i frig y byd dartiau. Byddwch chi'n clywed am ei frwydrau cynnar, yn ogystal â'i lwyddiant yn y Bencampwriaeth.
Dewch i glywed hanes yn uniongyrchol gan Phil wrth iddo drafod ei gemau eiconig, straeon o'r ystafell loceri, y gystadleuaeth frwd rhwng chwaraewyr, y pwysau sydd ynghlwm ag ennill, a phob dim arall sydd wedi arwain at yrfa ddisglair.
Mae'r noson yn cyfuno sgwrs onest ag uchafbwyntiau gweledol o yrfa Phil, gan gynnig cipolwg unigryw ar fywyd eicon y byd chwaraeon.
Profiad VIP: £76.00.
Gwnewch y mwyaf o'ch noson gyda thocyn VIP • Ysgwyd llaw Phil Taylor a derbyn ei lofnod ar eitem • Llun gyda Phil Taylor ar y noson wedi'i fframio'n broffesiynol • Llinyn gwddf
Dyma ofyn i chi gyrraedd am 5.45pm er mwyn cwrdd â Phil Taylor am 6.00pm.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
AD
Disgrifiad Sain
Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.
BSL
Iaith Arwyddion Prydain
Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.
T
Taith Gyffwrdd
Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.
C
Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau
Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.
Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.