Diweddaru oriau agor y Swyddfa Docynnau o ddydd Llun, 1 Mehefin 2026.
Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth rhwng 10am a 4pm. Mae’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau rhwng 10am a 4pm. Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 10am a 4pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar. Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.
Fe wnaethon nhw gynllunio'r llofruddiaeth. Fe wnaethon nhw guddio pob hoel. Roedden nhw'n meddwl nad oedden nhw am gael eu dal.
Bron iawn iddyn nhw lwyddo.
Yn The Makings of a Murderer: Fatal Mistake, bydd y newyddiadurwr ymchwiliol a darlledwr arobryn Donal MacIntyre yn trin a thrafod straeon gwir rhyfeddol llofruddion a ddaeth yn agos iawn at ddianc rhag cyfiawnder.
Dyma'r llofruddion a ddywedodd gelwydd yn argyhoeddiadol, a ddinistriodd dystiolaeth, a greodd alibis ffug ac, mewn rhai achosion, a lwyddodd i osgoi cael eu dal am flynyddoedd.
Ond yn rhywle, aeth rhywbeth o'i le.
Ôl fforensig bach. Tyst a gafodd ei anghofio. Newid o ran ymddygiad. Darn o deledu cylch cyfyng. Galwad ffôn. Gwrthddywediad. Un camgymeriad wnaeth ddechrau ddatod popeth o'r diwedd.
Gan dynnu ar rai o ymchwiliadau llofruddiaeth mwyaf cymhellol yr oes fodern, bydd Donal yn rhoi cipolwg i gynulleidfaoedd ar yr helfa am lofruddion oedd yn credu eu bod nhw wedi cyflawni'r drosedd berffaith.
Sut wnaethon nhw osgoi cael eu dal am gyfnod mor hir? Beth wnaeth arwain atyn nhw'n cael eu dal? A pha mor agos wnaethon nhw mewn gwirionedd at beidio â chael eu dal?
Gafaelgar, difyr ac yn llawn achosion go iawn rhyfeddol, mae The Makings of a Murderer: Fatal Mistake yn trin a thrafod y llofruddion a fu bron â threchu'r system - a'r ymchwilwyr, y dystiolaeth a'r darganfyddiadau damweiniol a'u daeth â nhw gerbron y llys yn y pen draw.
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
AD
Disgrifiad Sain
Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.
BSL
Iaith Arwyddion Prydain
Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.
T
Taith Gyffwrdd
Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.
C
Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau
Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.
Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.