Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

O ddydd Llun, 21 Gorffennaf tan ddydd Mercher, 3 Medi, bydd llinell prynu tocynnau dros y ffôn ein Swyddfa Docynnau ar agor 1pm-4pm rhwng dydd Mawrth a dydd Gwener ar gyfer y cwsmeriaid hynny sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu y byddai'n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Comedi'n Cyfieithu

Canolfan: Yr Olwg Dyddiad: 20 Mawrth 2026 Celfyddydau: Comedi, Ddwyieithog
Comedi'n Cyfieithu

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 20 Mawrth 2026 Gwen 20 Maw 2026 20 Maw 26 7:00yh

Ydych chi erioed wedi meddwl sut beth yw standyp mewn iaith arall? Dyma’ch cyfle i ddarganfod. Mewn ffordd.

Dechreuodd fel syniad syml. Tra bod digrifwyr yn perfformio yn Gymraeg, bydd y gynulleidfa yn clywed cyfieithiad Saesneg. Yn fyw! Dim ond cwpl o fân anawsterau technegol, ac oherwydd bod pob cyfieithydd yn y wlad wedi gwrthod y gwaith, bydd y cyfieithiadau yn cael eu darparu yn lle hynny… gan y digrifwyr eu hunain.

Mae’r sioe anarchaidd ac anrhagweladwy hon wedi gwerthu pob tocyn yn barhaus yng Ngwyliau Comedi Machynlleth ac Aberystwyth ers ei lansio yn 2017. Yn ddoniol dros ben, byddwch yn chwerthin o’r dechrau i’r diwedd – a bron yn sicr yn dysgu llawer am yr iaith Gymraeg a’i diwylliant ar hyd y ffordd.

Yn serennu’r cyfieithydd/digrifwr Steffan Alun a chyfres o berfformwyr gorau’r sîn Gymraeg.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.