Diweddaru oriau agor y Swyddfa Docynnau o ddydd Llun, 1 Mehefin 2026.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth rhwng 10am a 4pm.
Mae’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau rhwng 10am a 4pm.
Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 10am a 4pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.
Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

NOSON YNG NGHWMNI SUE RODERICK

Canolfan: Y Garth Dyddiad: 9 Hydref 2026 Celfyddydau: Achlysuron Cymraeg
NOSON YNG NGHWMNI SUE RODERICK

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 9 Hydref 2026 Gwen 9 Hyd 2026 9 Hyd 26 7:30yh

Sioe fydd yn edrych nol dros fywyd a gyrfa’r actores o Borthmadog. Roedd yn canu ers yn ferch ifanc a bu'n perfformio gyda Treflyn Jones yn y ddeuawd 'Treflyn a Siwsan'. Perfformiodd ar Disc a Dawn (BBC Cymru)  pan oedd yn ddeng mlwydd oed. Yn 14 oed aeth am glyweliad gyda Cwmni Theatr Cymru. Roedd yn rhy ifanc i ddechrau gweithio ond cafodd gynnig gwersi canu gyda Betty Roberts, gwraig cyfarwyddwr y cwmni, Wilbert. Wedi gorffen yn yr ysgol aeth yn ôl i weithio gyda Cwmni Theatr Cymru.

Yn 1987 perfformiodd ar y rhaglen Codi Pais (HTV) - rhaglen adloniant yn cynnwys sgetsus a chaneuon. Roedd y rhaglen yn torri tir newydd ar gyfer merched mewn comedi drwy gyfuno doniau Sue, Siw Hughes, Gillian Elisa ac Eirlys Parri. 

Roedd yn un o brif actorion y ffilm Hedd Wyn gan fynd i’r Oscars a chwrdd a nifer o ser mawr Hollywood.  Ymddangosodd yn Twin Town yn chwarae Lucy Cartwright. Yn y 1990au ymddangosodd yn y dramau Minafon,Y Palmant Aur, Yr Heliwr cyn ymuno â chast Pobol y Cwm i chwarae Cassie Morris, oedd yn berchen y Deri Arms gyda'i gŵr Teg. Wedi gadael yr opera sebon yn 2003, ail-ymunodd â Pobol y Cwm ar ddiwedd 2018 gyda stori am wasgaru llwch Mrs Mac.

Nid y Deri oedd yr unig dafarn ddychmygol iddi weithio ynddi gan iddi chwarae ran Megan Morgan – barmaid yn y Rovers Return (Coronation Street)  gydag Alec Gilroy a Bet Lynch.

Yn ystod hanner cynta’r noson fe fydd Ieuan Rhys yn holi Sue am ei bywyd a’u gyrfa gan adael i’r gynulleidfa ei holi’n yr ail ran.

Pwy a wyr falle cawn ni ambell i gân gan Sue cyn ddiwedd y noson?

Noson bleserus gyda un o actorion prysura Cymru ers amser maith. Noson i’w chofio.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.