Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

O ddydd Llun 8 Medi, bydd llinell ffôn ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am–4pm ar gyfer cwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Our Music, Our Story

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Celfyddydau: Cerddoriaeth
Our Music, Our Story

Lleisiau’r gorffennol yn cwrdd â lleisiau creadigol y dyfodol mewn noson o atgofion, cerddoriaeth a ffilm.

Yn Ein Cân, Ein Stori, mae Music Theatre Wales yn cyflwyno casgliad o weithiau newydd sy’n edrych yn ôl at y gorffennol ac ymlaen at y dyfodol, gan gynnwys:

Gweithiau byr newydd gan gyfansoddwyr ifanc o Gymru, 14–18 oed, a ddatblygwyd mewn gweithdai yn y Parc a’r Dâr ac sy’n cael eu perfformio gan Sinfonia Cymru

Dangosiad cyntaf o Opera Dditectif Ddigidol newydd sbon, arddull Ffilm Noir, wedi’i greu gan bobl ifanc 16–25 oed ac wedi’i ffilmio y tu ôl i’r llenni ac o amgylch coridorau’r Parc a’r Dâr

Yn ogystal, bydd dau waith newydd gan y cyfansoddwr Cymreig Luke Lewis wedi’u hysbrydoli gan leisiau lleol:

Quiet Thoughts / Myfyrdodau Tawel – ffilm newydd gan Harriet Fleuriot sy’n rhoi llais i fenywod lleol

The Echoes Return Slow – gwaith sy’n cyfuno lleisiau pwerus y gorffennol o’r ffilm Women of the Rhondda (1971) gyda chyfweliadau â glowyr lleol a recordiwyd yn Sefydliad y Gweithwyr (sef y Parc a’r Dâr heddiw) gan Alan Lomax yn 1953 wrth iddo deithio’r byd yn cofnodi cerddoriaeth a thraddodiadau gwerin. Yn wreiddiol yn rhan o raglen Writing the Future London Sinfonietta.

Bydd gwaith Luke Lewis yn cael ei berfformio gan Sinfonia Cymru, dan arweiniad Iwan Teifion Davies, gyda ffilm a thâp sain, ac ynghyd â cherdd newydd gan Owen Sheers, a grëwyd ar y cyd â, ac yn bydd ei ddarllen gan, Kyle Stead.

Noson i fyfyrio ar yr hyn sydd wedi bod, ac i ddathlu’r creadigrwydd sydd eto i ddod.

Compere – Samuel Bees.

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.