O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

The Adventures Of Sherlock Holmes

Canolfan: Y Parc a'r Dâr Celfyddydau: Comedi Drama
The Adventures Of Sherlock Holmes

wedi'i chyflwyno gan Black RAT Productions a Sefydliad y Glowyr Coed Duon

Sioe gomedi newydd sbon (gyda chaneuon!)

wedi'i hysgrifennu a'i chyfarwyddo gan Richard Tunley

gyda cherddoriaeth gan Kieran Bailey

Mae'r garfan wnaeth gynhyrchu The Invisible Man yn eu holau gyda gogwydd doniol ar dditectif poblogaidd Syr Arthur Conan Doyle – dyma ddirgelwch Sherlock gyda gwahaniaeth!

Pan mae cyfres o droseddau dychrynllyd yn digwydd yn Llundain oes Fictoria, rhaid i Sherlock Holmes a'i gyfaill ffyddlon Doctor Watson ddatguddio'r dirgelwch yn ymwneud â'r erchyllterau yma er mwyn achub Prydain Fawr a hyd yn oed y Frenhines Fictoria.

Ond pwy sy’n gyfrifol am yr erchyllderau yma? A fydd ein deuawd deinamig yn achub y dydd?

Yn unol ag arddull arferol Black RAT, mae cast egnïol yn dod â phedwar cymeriad cyfarwydd o storïau Sherlock yn fyw yn y perfformiad newydd sbon yma – llawn antur, chwerthin a chaneuon gwych.

Caneuon? Rydych chi'n gywir. Wyddoch chi fod Sherlock yn gallu bloeddio canu baled roc neu ddwy ... neu fod Dr. Watson yn gystadleuaeth i Michael Bublé?

Disgwyliwch berfformiad digri a chyflym yn cynnwys syrpreisys chwerthinllyd, dyfeisgarwch theatrig ardderchog, a gogwydd newydd ar y ditectif orau a fu erioed.

Elementary!

Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.