O ddydd Llun 19 Chwefror, bydd gan y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm oriau agor newydd - bydd modd i bobl alw heibio bob dydd Mawrth rhwng 11am a 2pm.

Bydd llinell archebu'r Swyddfa Docynnau ar agor rhwng 2pm a 5pm, dydd Mawrth i ddydd Gwener, ar gyfer cwsmeriaid sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd neu sy'n dymuno siarad ag aelod o garfan y Swyddfa Docynnau.

Defnyddiwch wefan rct-theatres.co.uk i brynu tocynnau lle bo modd.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

The King Of Nothing

A Puppet Musical

Canolfan: Y Colisëwm Celfyddydau: Achlysuron i Blant
The King Of Nothing
Photo Ellie Kurttz The King of Nothing PRO2022 003
Photo Ellie Kurttz The King of Nothing PRO2022 019
Photo Ellie Kurttz The King of Nothing PRO2022 029
Photo Ellie Kurttz The King of Nothing PRO2022 052
Photo Ellie Kurttz The King of Nothing PRO2022 091
Photo Ellie Kurttz The King of Nothing PRO2022 097
Photo Ellie Kurttz The King of Nothing PRO2022 121

Cyflwynwyd gan Monstro Theatre

Dyma gynhyrchiad hudolus o sioe gerdd bypedau newydd wedi'i hysbrydoli gan The Emperor's New Clothes gan Hans Christian Andersen.

Mae'r Brenin Reginald yn hoff o reoli ei deyrnas mewn steil, ond wrth i fyd ffasiwn newid yn gyflym o'i amgylch, mae'n poeni nad yw'n llwyddo i aros ar flaen y gad...

Ar ôl clywed am broblem y Brenin, mae dau ddyluniwr yn mentro i'r palas gyda'u ffabrig newydd sbon – mae'r ffabrig yma'n un arbennig sydd DDIM yn mynd mas o ffasiwn. Mae'r Brenin yn cyffroi wrth siarad am y ffabrig hud a lledrith ac yn edrych ymlaen at wisgo ei siwt newydd yn yr orymdaith fawr. Ond ydy'r dylunwyr yma'n dweud y gwir...?

“One of the best children's shows I've ever seen. The writing was so intelligent, the music was lovely. My son is begging to see it again" Audience Member

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.