Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00am tan 2.00pm

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun  i ddydd Gwener 10.00am –4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

The Witch Who Couldn't Sleep

Canolfan: Y Colisëwm Dyddiad: 13 Medi 2026 Celfyddydau: Achlysuron i Blant
The Witch Who Couldn't Sleep

Perfformiadau

  • Dydd Sul 13 Medi 2026 Sul 13 Medi 2026 13 Medi 26 1:00yh

gan Steven Lee

Sioe gerdd ‘amser stori’ i’r teulu gan grewyr 'There Was An Old Lady Who Swallowed A Fly' ac 'A Big Egg'.

Mae bod yn wrach yn beth cyffrous iawn. Mae cymaint i'w wneud o hyd, ac mae llawer o hwyl i’w gael.

Ac efallai dyna'r rheswm pam dydy Natascha’r Wrach ddim yn gallu cysgu...

A all rhywun, neu rywbeth, helpu Natascha i gwympo i gysgu?

Yn seiliedig ar stori o lyfr poblogaidd Steven Lee, "How The Koala Learnt To Hug and Other Australian Fairytales", dyma sioe berffaith i chi’i fwynhau wrth swatio’n glyd gyda'ch teulu.

Felly, gwisgwch eich hoff byjamas ac ymunwch â ni i gyd-ganu yn y sioe gerdd hudolus yma. Mae'r sioe'n cynnwys actio byw, cerddoriaeth ac animeiddio.

Yn berffaith ar gyfer plant 3-7 oed. 

Hyd y sioe: 50 munud, ac yna cyfle i'r plant gwrdd â'r cymeriadau a chael llun gyda nhw.

 

Perfect for a cosy family cuddle” Absolutely Mama

“A wonderful show for children to discover the power of their imaginations and the magic of storytelling”  The Guide 

 

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.