Bydd y Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth 11.00am–2.00pm.

O ddydd Iau 12 Medi fydd y Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 2.00pm–5.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddynt sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Manylion Technegol

Theatr y Colisëwm

Dimensiynau'r Llwyfan

Lled (o Wal i Wal) = 33 troedfedd (Tua 14.9 m) Dyfnder (o'r Haearn i'r Wal Gefn) = 19 troedfedd 6 modfedd (Tua 5.85m) Dyfnder y Llwyfan = 9 troedfedd 6 modfedd (Tua 2.85m) Agoriad y Proseniwm = 26 troedfedd (Tua 7.8m) Uchder y Proseniwm = 18 troedfedd 5 modfedd (Tua 5.5m) Lled Adain Chwith y Llwyfan ac Adain Dde'r Llwyfan = 10 troedfedd 4 modfedd (Tud 3.17m) Dyfnder Adain Chwith y Llwyfan ac Adain Dde'r Llwyfan = 20 troedfedd 11 modfedd (Tua 6.13m) Uchder Adain Chwith y Llwyfan ac Adain Dde'r Llwyfan =22 troedfedd 11 modfedd (Tua 6.74m) Uchder Drws y Doc = 9 troedfedd 6 modfedd (Tua 2.95) Lles Drws y Doc = 7 troedfedd 9 modfedd (Tua 2.42m)

Golau

Ion ETC gyda Phylwr Adain a 2 Sgrîn Gyffyrddadwy Raciau Pylu Zero 88 Chilli (2.5k) - 70 o Gylchedau yn gyfan gwbl (gyda Swits)

30 o Gylchredau ar Flaen y Tŷ -
Ochr Dde'r Tŷ - 6 Cylchred
Ochr Chwith y Tŷ - 6 Cylchred To -12 Cylchred
Blaen y Cylch - 6 Cylchred

34 Cylchred ar y Llwyfan
LX 1 - 12 Cylchred
LX 2 - 12 Cylchred
LX 2 - 12 Cylchred
2 Esgynbren ar y naill ochr i'r proseniwm, 6 cylchred bob un
Llinellau DMX - Pob Bar LX USL ar Adain Chwith y Tŷ ac Adain Dde'r Tŷ Llusernau Ar Gael 25 x Source Four zooms 15 - 30 15 x Source Four Junior 25 - 50 24 x Selecon Rama 7 - 50 17 x Par 64 o Ganiau Llawr 25 x Thomas Par 64s 4 x Coda 3 Llawr (500w) 9 x Birdies 2 x Sbotlamp Dilyn Robert Juliet Topaz (1.2k)

Sain

Desg gymysgu ddigidol Allen & Heath Qu 32 System 3k Kv2 sydd ar ochr chwith y Proseniwm, ar ochr dde'r Proseniwm a 2 lenwad ar gyfer y cylch 4 x Monitor Gweithredol RCF 6 x Bocs DI 8 x Stand Meicroffôn 6 x Sm58's 2 x SM57s Cit Drwm Senheiser Llawn

Fforwm

System Techpro Uned sylfaenol ar ochr dde'r proseniwm lle mae modd galw y tu ôl i'r llwyfan. Paciau belt wedi'u lleoli ar ochr chwith y llwyfan, platfform cul, safle sain, safle lx, sbotlamp dilyn, seddi'r gerddorfa.

Systemau Hedfan

2 far LX sydd wedi'u rheoli gan winsh llaw (LX 3 A 4) wedi'u stamptio hyd at 250kg.

Mae LX 1 o dan sgrîn y sinema, sydd wedi'i ddal gan 3 craen cadwyn Loadstar 300kg.

11 o fariau tair llinell cywarch, wedi'u stampio hyd at 100kg a gaiff eu gweithredu o'r platfform cul ar ochr chwith y llwyfan. (argymhellir hedfan deunydd o 6 - 6.5m Lled 9.20m)

*Mae plot hongian wedi'i atodi*

Deunydd sydd ar gael -
2 set o goesau du - 2 set o fframiau du
1 set o dabiau du ar bwli llaw
1 cyclorama du
1 cyclorama gwyn
1 pâr o dabiau melfed coch (cyflymder sengl, 12 eiliad)

Pŵer

Mae SL 63 amp 3 cham wedi'i leoli ar gyfer cwmnïau sydd â llwyfan sy'n troi

Seddi'r Gerddorfa

7m - 3.9m mae lle i 15 o gerddorion yn braf 12 stand Ratt Stand i'r Cyfeilydd 1 piano trydan Casio llawn

*Yn ogystal a hynny, mae piano cyngerdd bach ar lefel y llwyfan*

Ystafelloedd Gwisgo

Ystafell Wisgo 1: Drychau colur gyda golau, silffoedd, rheilen ddillad, Seddi - 9. Ystafell Wisgo 2: Drychau colur gyda golau, silffoedd, rheilen ddillad, Seddi - 6 Ystafell Wisgo 3: Drychau colur gyda golau, silffoedd, rheilen ddillad, Seddi - 12

Mae toiledau a chawod ar y naill ochr o goridor yr ystafell wisgo.

**NODWCH FOD RHAID I UNRHYW GYFARPAR TRYDANOL RYDYCH CHI'N EI DDEFNYDDIO YN Y LLEOLIAD FOD Â THYSTYSGRIF PAT GYFREDOL**

Lawrlwytho Manylion Technegol Theatr y Colisëwm


Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.