Diweddaru oriau agor y Swyddfa Docynnau o ddydd Llun, 1 Mehefin 2026.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth rhwng 10am a 4pm.
Mae’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau rhwng 10am a 4pm.
Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 10am a 4pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.
Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi

Jess a Catsgam

Canolfan: Y Garth Dyddiad: 16 Hydref 2026 Celfyddydau: Achlysuron Cymraeg
Jess a Catsgam

Perfformiadau

  • Dydd Gwener 16 Hydref 2026 Gwen 16 Hyd 2026 16 Hyd 26 7:30pm

Cyflwynir gan Twrw Taf

Jess, y band arloesol o Aberteifi sydd wedi dylanwadu ar gerddoriaeth Gymraeg ers eu llwyddiant cynnar yn yr 80au, gyda chaneuon cofiadwy sy’n parhau’n boblogaidd hyd heddiw. Ffurfiwyd y band yn 1985 gan Brychan Llŷr, Chris Lewis ac Emyr Pen-lan, gyda Owen Thomas yn ymuno’n fuan ar y drymiau. Fel y band proffesiynol iaith Gymraeg cyntaf yng Nghymru, teithiodd Jess yn helaeth ledled Cymru ac Ewrop, gan ymddangos mewn gwyliau mawr fel Glastonbury, ac mae Jess yn dal i gael ei ystyried yn fand dylanwadol, gyda’u dull arloesol a’u hymrwymiad i’r iaith Gymraeg yn parhau i siapio cerddorion newydd.

Ffurfiwyd Catsgam yn ne ddwyrain Cymru yn 1997 pan ddaeth y pum aelod at ei gilydd i greu sain roc melodig wedi ei adeiladu ar ganeuon cadarn Rhys Harries a llais arbennig Catrin Brooks. Yr hyn sy’n gwneud Catsgam yn anarferol, os nad yn unigryw, yw bod y band yn dal gyda’i gilydd 27 mlynedd yn ddiweddarach, yn dal i chwarae’n fyw, wedi rhyddhau pum albwm, ac yn dal yn ffrindiau!
 

Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.