Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth rhwng 10am a 4pm. Mae’r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau rhwng 10am a 4pm. Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 10am a 4pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar. Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.
Ar Siula Grande anghysbell ym Mheriw ym mis Mehefin 1985, cafodd y mynyddwr Simon Yates ei hun mewn sefyllfa ofnadwy. Roedd yn cael ei dynnu'n araf oddi ar wyneb y mynydd gan ei bartner anafedig, Joe Simpson, yn hongian ar y rhaff 50 metr islaw. Fe wnaeth ei benderfyniad i dorri'r rhaff achub bywydau'r ddau ohonynt yn y stori epig o oroesi a ddilynodd, ac ar ôl cyhoeddi'r llyfr 'Touching The Void', a ffilm a drama lwyfan yn ddiweddarach, fe ddaeth y ddau ddringwr yn enwau cyfarwydd.
Roedd yn brofiad a allai fod wedi gwneud i lawer troi eu cefnau ar y gamp o fynydda - ond nid Simon. Dros 35 mlynedd yn ddiweddarach, mae'n dal i fod yn fynyddwr ac yn dywysydd archwiliadol gweithgar iawn, gan wneud sawl alldaith i'r mynyddoedd bob blwyddyn. O'r Arctig i'r Antarctig, Alaska i Asia Ganol, prin fod cadwyn o fynyddoedd o bwys nad yw wedi ymweld â hi.
Dewch draw i ddysgu mwy am daith ddiflino Simon - o'r mynydd hwnnw ym Mheriw i rai o'r rhai mwyaf anghysbell ar y blaned, ac yn ei gwmni, cewch rannu drama, cyffro a harddwch mynydda modern. Sioe wedi'i chyflwyno â ffraethineb, hiwmor sych ac wedi'i ddarlunio'n helaeth gyda delweddau a ffilm a gasglwyd ar ei ddringfeydd mawr.
“Simon is a totally engaging speaker, who both entertains and inspires.”
Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm. Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw. Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.
AD
Disgrifiad Sain
Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.
BSL
Iaith Arwyddion Prydain
Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.
R
Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol
Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.
Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.
Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.
T
Taith Gyffwrdd
Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.
C
Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau
Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.
Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.