Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00am tan 2.00pm

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

O ddydd Llun 5 Ionawr , bydd llinell ffôn ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am tan 4.00pm ar gyfer cwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi
IBFA MR & MISS UK 2026
Y Colisëwm
Achlysur i'r Gymuned

IBFA MR & MISS UK 2026

  • Dydd Sul 6 Medi 2026 Sul 6 Medi 2026 6 Medi 26 11:30yb
  • Tocynnau - £26.00
  • Plant iau nag 14 oed - £16.00
KERRY ELLIS – ROCK ANTHEMS
Y Colisëwm
Cerddoriaeth

KERRY ELLIS – ROCK ANTHEMS

  • Dydd Iau 17 Medi 2026 Iau 17 Medi 2026 17 Medi 26 7:30yh
  • Tocynnau - £31.00
  • VIP - £46.00
  • Tocyn Cwrdd a Chyfarch - £76.00
Dom Joly: Trigger Happy TV – Live!
Y Colisëwm
Comedi

Dom Joly: Trigger Happy TV – Live!

25th Anniversary Tour.
  • Dydd Iau 24 Medi 2026 Iau 24 Medi 2026 24 Medi 26 7:30yh
  • Tocynnau - £29.00
  • VIP - £46.00
  • Tocyn Cwrdd a Chyfarch - £76.00
Russell Watson :  An Intimate Evening With ‘The Voice’
Y Colisëwm
Sgwrs a Cherddoriaeth

Russell Watson : An Intimate Evening With ‘The Voice’

  • Dydd Mercher 30 Medi 2026 Mer 30 Medi 2026 30 Medi 26 7:30yh
  • Tocynnau - £35.00
  • VIP - £51.00
  • Tocyn Cwrdd a Chyfarch - £86.00
Go West - We Close Our Eyes, And Other Stories
Y Colisëwm
Sgwrs a Cherddoriaeth

Go West - We Close Our Eyes, And Other Stories

An Intimate Evening with Singer Peter Cox
  • Dydd Mercher 7 Hydref 2026 Mer 7 Hyd 2026 7 Hyd 26 7:30yh
  • Tocynnau - £31.00
  • Tocyn Cwrdd a Chyfarch - £76.00
  • VIP - £46.00
The Americana Revue
Y Colisëwm
Cerddoriaeth

The Americana Revue

gyda Ben Mills
  • Dydd Gwener 9 Hydref 2026 Gwen 9 Hyd 2026 9 Hyd 26 7:30yh
  • Tocynnau - £29.50
Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.