Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Mae'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Iau o 1.00pm tan 4.00pm.

O ddydd Llun 8 Medi, bydd llinell ffôn ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am–4pm ar gyfer cwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi
THE LOST BOYS (15)
Y Colisëwm
Sinema

THE LOST BOYS (15)

  • Dydd Mercher 29 Hydref 2025 Mer 29 Hyd 2025 29 Hyd 25 6:45yh
  • Tocynnau - £6.80
  • Gostyngiadau - £4.10
  • Tocyn Teulu - £16.40
Casper (PG)
Yr Olwg
Sinema

Casper (PG)

a Sesiwn Grefft
  • Dydd Iau 30 Hydref 2025 Iau 30 Hyd 2025 30 Hyd 25 10:30yb 1:30yh
  • Tocynnau - £5.00
THE ROCKY HORROR PICTURE SHOW (12A)
Y Colisëwm
Sinema

THE ROCKY HORROR PICTURE SHOW (12A)

  • Dydd Iau 30 Hydref 2025 Iau 30 Hyd 2025 30 Hyd 25 7:00yh
  • Tocynnau - £6.80
  • Gostyngiadau - £4.10
  • Tocyn Teulu - £16.40
The Superstars of Welsh Wrestling
Y Parc a'r Dâr
Amrywiaeth/Adloniant Ysgafn

The Superstars of Welsh Wrestling

  • Dydd Gwener 31 Hydref 2025 Gwen 31 Hyd 2025 31 Hyd 25 2:00yh
  • Tocynnau - 14.00
  • Gostyngiadau - £11.00
Chitty Chitty Bang Bang
Y Colisëwm
Achlysur i'r Gymuned

Chitty Chitty Bang Bang

Cyflwynir gan Colstars
  • Dydd Mercher 5 Tachwedd 2025 Mer 5 Tach 2025 5 Tach 25 7:00yh
  • Dydd Iau 6 Tachwedd 2025 Iau 6 Tach 2025 6 Tach 25 7:00yh
  • Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025 Gwen 7 Tach 2025 7 Tach 25 7:00yh
  • Dydd Sadwrn 8 Tachwedd 2025 Sad 8 Tach 2025 8 Tach 25 2:00yh 7:00yh
  • Tocynnau - £17.00
  • Gostyngiadau - £15.00
A Concert  Of Remembrance
Y Parc a'r Dâr
Cyngerdd

A Concert Of Remembrance

  • Dydd Gwener 7 Tachwedd 2025 Gwen 7 Tach 2025 7 Tach 25 7:00yh
  • Tocynnau - £18.00
  • Tocyn Teulu (o leiaf 2 o blant) - £60.00
Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.