Mae'r Swyddfa Docynnau yn Theatr y Colisëwm ar agor i gynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb bob dydd Mawrth o 11.00 tan 2.00.

Dydy'r Swyddfa Docynnau yn y Parc a’r Dâr ddim yn cynnig gwasanaeth wyneb-yn-wyneb ar hyn o bryd er mwyn hwyluso gwaith adeiladu yn y cyntedd ac ardal y Swyddfa Docynnau.

Bydd llinell prynu tocynnau ein Swyddfa Docynnau ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 10.00am–4.00pm i gwsmeriaid heb fynediad i’r rhyngrwyd neu y byddai’n well ganddyn nhw sgwrsio ag aelod o'n Carfan Swyddfa Docynnau gyfeillgar.

Lle bo modd, ewch i rct-theatres.co.uk/cy/ i brynu tocynnau.

Dewislen

Cysylltu â ni

Swyddfa Docynnau 03000 040 444

Iaith

EnglishCymraeg
Mewngofnodi
Ink'd
Y Parc a'r Dâr
Drama

Ink'd

Yn Stiwdio 1
  • Dydd Iau 19 Mehefin 2025 Iau 19 Meh 2025 19 Meh 25 7:30yh
  • Tocynnau - £15.00
Sglenio'r Lleuad
Yr Olwg
Achlysuron Cymraeg, Achlysuron i Blant

Sglenio'r Lleuad

  • Dydd Gwener 20 Mehefin 2025 Gwen 20 Meh 2025 20 Meh 25 10:30yb 1:00yh
  • Tocynnau - £8.50
BILLY ELLIOT THE MUSICAL LIVE (20TH ANNIVERSARY) (15)
Y Colisëwm
Digwyddiadau Sinema

BILLY ELLIOT THE MUSICAL LIVE (20TH ANNIVERSARY) (15)

Dyma Ddangosiad Ffilm o'r Cyngerdd Llwyfan.
  • Dydd Sul 22 Mehefin 2025 Sul 22 Meh 2025 22 Meh 25 5:00yh
  • Tocynannau - £6.80
Gig Tymor yr Haf Gwasanaeth Cerdd RhCT
Y Parc a'r Dâr
Achlysur i'r Gymuned

Gig Tymor yr Haf Gwasanaeth Cerdd RhCT

Yn Stiwdio 1
  • Dydd Iau 3 Gorffennaf 2025 Iau 3 Gorff 2025 3 Gorff 25 7:00yh
  • Tocynnau - £6.00
  • Gostyngiadau - £4.00
  • Tocyn Teulu - £11.00
Rock For Heroes
Y Parc a'r Dâr
Cerddoriaeth

Rock For Heroes

The Ultimate Rock Anthems
  • Dydd Gwener 11 Gorffennaf 2025 Gwen 11 Gorff 2025 11 Gorff 25 7:30yh
  • Tocynnau - £26.00
BONNIE & CLYDE, THE MUSICAL LIVE (12A)
Y Colisëwm
Digwyddiadau Sinema

BONNIE & CLYDE, THE MUSICAL LIVE (12A)

Dyma Ddangosiad Ffilm o'r Cyngerdd Llwyfan.
  • Dydd Mercher 23 Gorffennaf 2025 Mer 23 Gorff 2025 23 Gorff 25 6:30yh
  • Tocynnau - £6.80
Croeso
i Theatrau RhCT
Welcome
to RCT Theatres

3D 3D


Wrth wylio ffilm mewn 3D, rydych chi'n teimlo'n rhan o'r ffilm.  Mae delweddau o safon anhygoel - clir, llachar a realistig a sain o'ch cwmpas chi yn dod â'r stori yn fyw.  Dydych chi ddim yn profi'r adloniant yn unig; rydych chi tu mewn i'r adloniant.

AD Disgrifiad Sain


Sylwebaeth fyw wedi'i chydblethu â deialog yr actorion ydy disgrifiad sain. Caiff y sylwebaeth ei throsglwyddo drwy benset sy'n gysylltiedig â'r system sain is-goch. Bydd sesiwn fer 'nodiadau'r rhaglen' yn cael ei chynnal cyn y cynhyrchiad, sy'n esbonio'r awyrgylch, gwisgoedd, cymeriadau a'r antur.

BSL Iaith Arwyddion Prydain


Mae perfformiadau iaith arwyddion yn berffaith i'r rhai sy'n defnyddio'r iaith. Fel arfer, mae arwyddwyr sydd wedi derbyn hyfforddiant Iaith Arwyddion Prydain ('BSL') yn sefyll ar un ochr y llwyfan ac yn dehongli'r sgript sydd gan y perfformwyr ar yr un pryd ag y mae'n cael ei pherfformio.

R Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol


Mae'r dangosiad sinema/perfformiad yma ar gael i bawb. Serch hynny, fe fydd fwyaf addas ar gyfer y sawl a fydd yn elwa ar amgylchedd sy'n fwy hamddenol oherwydd bod ganddo/ganddi Anhwylder Sbectrwm Awtistiaeth neu anabledd dysgu, neu oherwydd ei fod neu ei bod yn teimlo'n bryderus am y tywyllwch, synau uchel neu leoedd cyfyng.

Mae Dangosiad Sinema/Perfformiad Hamddenol yn cynnig amgylchedd hamddenol, ble mae elfennau ohono yn cael eu haddasu er mwyn lleihau pryder neu straen. Caiff lefelau sain a golau eu haddasu er mwyn lleihau'r effaith. Does dim ots os oes llawer o sŵn a chaiff unrhyw un adael yr awditoriwm yn ystod y dangosiad sinema/perfformiad.

Mae mannau 'ymlacio' penodol yn cael eu paratoi y tu allan i'r awditoriwm gyda gweithgareddau i'w gwneud os ydyn nhw'n cael digon ar fod yn yr awditoriwm.

T Taith Gyffwrdd


Mae 'Taith Gyffwrdd' ar gyfer unigolion sy'n ddall neu sydd â nam ar eu golwg er mwyn iddyn nhw ddod yn gyfarwydd â'r set cyn y perfformiad.

C Ffilm/Perfformiad â Chapsiynau


Mae capsiynau’n dangos deialog ar y sgrin (tebyg i is-deitlau) a hefyd yn disgrifio sŵn/sain y ffilm/perfformiad. Mae hyn yn rhoi cyfle i aelodau’r gynulleidfa sy’n Fyddar/fyddar neu’n drwm eu clyw ddilyn y sgript a'r hyn sy'n digwydd yn y ffilm/perfformiad ar yr un pryd.

Ar gyfer perfformiadau byw, mae'r sgrin ar ochr y llwyfan.